P-04-648  Diwygio’r Cyfarwyddyd ar Olew a Nwy Anghonfensiynol 2015

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan cyngorydd Arfon Jones ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Medi 2015, ar ôl casglu 1,254 llofnod ar lein a 293 llofnod bapur.

Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ddiwygio CYFARWYDDYD CYNLLUNIO GWLAD A THREF (HYSBYSU) (OLEW A NWY ANGHONFENSIYNOL) (CYMRU) 2015 er mwyn galw pob cais cynllunio'n ymwneud â datblygiadau olew a nwy  anghonfensiynol i mewn. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys drilio arbrofol am nwy siâl, methan gwely glo a nwyeiddio glo tanddaearol

Gwybodaeth Ychwanegol
Ar hyn o bryd mae'r Cyfarwyddyd yn ymwneud â cheisiadau sy'n cynnwys dulliau echdynnu anghonfensiynol penodol yn unig ac mae'r Awdurdodau Cynllunio Lleol yn tueddu i ganiatáu'r cais.

Nid yw'r Cyfarwyddyd presennol yn berthnasol i nwyeiddio glo tanddaearol er y gall effeithiau'r broses hon fod yr un mor niweidiol i'r amgylchedd a chymunedau. Nid yw ychwaith yn berthnasol i ddrilio arbrofol neu ddrilio prawf. Mae pryderon cynyddol ynghylch effaith drilio arbrofol, yn enwedig o safbwynt sŵn, traffig, y posibilrwydd o darfu ar gyrsiau dŵr ac o greu symudiadau seismig, creu safleoedd diwydiannol yng nghefn gwlad a'r effaith ar brisiau tai.

Os oes moratoriwm ar echdynnu, yna beth yw pwrpas archwilio? Os yw gwaith echdynnu wedi'i wahardd, mae'n annerbyniol ac afresymol caniatáu i waith archwilio fynd rhagddo.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru